|
Teitl y ddeiseb: Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr
Geiriad y ddeiseb: Yn Lloegr, o fis Ebrill 24, bydd pob rhiant sy'n gweithio â phlant 2 oed yn cael 15 awr o ofal plant am ddim. O fis Medi 24, bydd hyn yn cael ei estyn i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn. O fis Medi 25, bydd nifer yr oriau o ofal plant am ddim yn cynyddu i 30. Mewn cymhariaeth, yng Nghymru, bydd yn cymryd tan fis Medi 25 i ddarparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob rhiant â phlant 2 oed. A hynny heb gynllun ar waith i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn na chynyddu nifer yr oriau i 15 neu 30. Rydym mewn argyfwng costau byw lle y mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gefnogi rhieni sy'n gweithio ond nid yw’n gwneud hynny. |
1. Crynodeb
Mae gwahanol fathau o ofal plant am ddim yn cael eu cynnig yng Nghymru a Lloegr. Dyma grynodeb ohonynt:
§ Yng Nghymru, mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i rieni cymwys sy’n gweithio a chanddynt blant 3 a 4 oed. O dan y cynllun hwn, gellir hawlio 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn. Yn Lloegr, gellir hawlio 30 awr yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn. Yng Nghymru, cafodd yr hawl hwn ei ymestyn yn ddiweddar i gynnwys rhai rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant.
§ Mae gan y ddwy wlad rywfaint o ddarpariaeth ar gyfer grwpiau penodol o blant sy’n 2 flwydd oed, ond mae’r ddarpariaeth hon yn cael ei chynnig mewn gwahanol ffyrdd. Mae cynlluniau yn y ddwy wlad hefyd i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant sy’n 2 oed (ceir manylion isod).
§ Yng nghyllideb y gwanwyn 2023, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn bwriadu ymestyn yr hawl i 30 awr o ofal yn Lloegr, fesul cam, i gynnwys rhieni sy’n gweithio a chanddynt blant rhwng 9 mis a 3 blwydd oed, a hynny o fis Medi 2025 ymlaen. O dan y drefn newydd, a gaiff ei chyflwyno fesul cam, y bwriad yw y bydd rhieni sy’n gweithio a chanddynt blant 2 oed yn gallu cael mynediad at 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, o fis Ebrill 2024 ymlaen. Yna, o fis Medi 2024, y bwriad yw ymestyn y 15 awr hwn i rieni sy’n gweithio a chanddynt blant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed. Yn olaf, ym mis Medi 2025, y bwriad yw y bydd yr holl rieni cymwys sy'n gweithio a chanddynt blant rhwng 9 mis a 3 blwydd oed yn gallu cael mynediad at 30 awr o ofal yr wythnos am ddim.
Mewn ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mae'r Cynnig Gofal Plant ar gael i deuluoedd cymwys plant 3 i 4 oed ac mae'n darparu cymorth am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â'r cynnig o 38 wythnos yn Lloegr. Er bod hyn yn cynnwys o leiaf 10 awr ar gyfer addysg gynnar yn ystod y tymor, mae gofal plant o30 awr ar gael bob wythnos am 9 o'r wythnosau gwyliau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd:
Fe wyddoch am y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford ym mis Awst, a oedd yn trafod y pwysau sylweddol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu cadarnhau unrhyw ddatblygiadau newydd ym maes gofal plant a sut y byddwn yn rhoi cymorth i deuluoedd ymdopi â chostau gofal plant yn y dyfodol.
2. Cyd-destun
Mae gofal plant am ddim yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd amrywiol, yn dibynnu ar union oedran y plentyn, amgylchiadau cyflogaeth y rhieni, ac yn achos Dechrau’n Deg yng Nghymru, yr union leoliad daearyddol lle mae’r plentyn yn byw. Mae gan Gymru a Lloegr wahanol brosesau o ran darparu gofal plant, cofrestru ar ei gyfer a chynnal arolygon yn ei gylch.
Yn ogystal â gofal plant am ddim i rai plant, mae rhai buddion eraill ar gael ledled y DU, gan gynnwys gofal plant di-dreth, a chymorth ariannol arall gan Lywodraeth y DU ar gyfer rhieni. Gall rhieni hawlio gofal plant di-dreth ar yr un pryd ag y maent yn hawlio 15 neu 30 awr o ofal plant am ddim. Mae rhagor o gyngor ar gael i rieni ar y wefan hon: Help gyda chostau gofal plant | Helpwr Arian
3. Cymru
I grynhoi:
§ Cynnig Gofal Plant Cymru: gall rhieni cymwys sydd â phlant 3 a 4 oed hawlio 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r hawl i 30 awr o ofal plant yn cynnwys 20 awr o ofal plant a 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar. Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio wedi arwain at ehangu’r meini prawf cymhwystra ar gyfer cael mynediad at ofal plant, a hynny er mwyn cynnwys rhieni sydd â phlant 3 a 4 oed ac sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg bellach neu addysg uwch sy’n 10 wythnos o hyd, fan lleiaf.
§ Gall yr holl rieni sydd â plant 3 a 4 oed hawlio o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar (a elwir hefyd yn ddarpariaeth feithrin y cyfnod sylfaen). Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnig o leiaf 10 awr yr wythnos o'r tymor ar ôl trydydd pen-blwydd y plentyn dan sylw, hyd nes iddo ddechrau addysg llawn amser. Yn ymarferol, mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig mwy. O ran y rhieni hynny sy’n gymwys ar gyfer y cynnig gofal plant, mae’r oriau gofynnol wedi’u cynnwys yn y 30 awr o ddarpariaeth am ddim.
§ O ran pob plentyn 2 a 3 oed sy’n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, ceir hawlio 2.5 awr y dydd o ofal plant am ddim, a hynny am 5 diwrnod yr wythnos ac am 39 wythnos y flwyddyn. Rhaid sicrhau bod o leiaf 15 sesiwn o ddarpariaeth gofal plant ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol. Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau’n Deg. Mae wedi bod ar waith ers 2007, ac mae’n cael ei darparu gan awdurdodau lleol. Yn y rhaglen lywodraethu, ceir yr ymrwymiad a ganlyn: “Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg”. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod mwy na 3,100 o blant ychwanegol wedi elwa hyd yma, a’i bod yn canolbwyntio ar gam nesaf y broses o ehangu’r ddarpariaeth.
4. Lloegr
I grynhoi:
§ Gall rhieni cymwys sydd â phlant 3 neu 4 oed hawlio 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim yn Lloegr, am 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod y tymor ysgol).
§ Gall yr holl rieni sydd â phlant 3 neu 4 oed hawlio 570 awr o addysg gynnar neu ofal plant am ddim bob blwyddyn. Yn aml, mae’r ddarpariaeth hon yn cael ei hawlio ar ffurf 15 awr yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
§ Gall rhieni cymwys sydd ar incwm isel â chanddynt blant 2 oed hawlio 15 awr yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn. O fis Ebrill 2024 ymlaen, y nod yn Lloegr yw ymestyn y ddarpariaeth hon, sef 15 awr o ofal plant, i gynnwys rhieni sy’n gweithio a chanddynt blant 2 oed.
§ Yng nghyllideb y gwanwyn 2023, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’r hawl i 30 awr o ofal yn cael ei ymestyn, fesul cam, i gynnwys plant rhwng 9 mis a 3 blwydd oed, a hynny o fis Medi 2025 ymlaen. Y bwriad yw y bydd rhieni sy’n gweithio a chanddynt blant 2 oed yn gallu cael mynediad at 15 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, a hynny o fis Ebrill 2024 ymlaen. O fis Medi 2024 ymlaen, y bwriad yw ymestyn y trefniant hwn i rieni sy’n gweithio a chanddynt blant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed. Yn olaf, ym mis Medi 2025, y bwriad yw y bydd yr holl rieni cymwys sy'n gweithio a chanddynt blant rhwng 9 mis a 3 blwydd oed yn gallu cael mynediad at 30 awr o ofal yr wythnos am ddim.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yma:
§ Papur briffio Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin
§ Help gyda chostau gofal plant yn Lloegr: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin
5. Gwaith craffu gan y Senedd
Yn 2021, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad ar ofal plant a chyflogaeth rhieni: y pandemig a thu hwnt.
O ran y ddeiseb hon, ym mis Mawrth 2023, cafodd y Prif Weinidog ei holi am y cynlluniau a gyhoeddwyd o ran ehangu’r ddarpariaeth yn Lloegr, a sut mae’r sefyllfa yno yn cymharu â’r sefyllfa yng Nghymru. Dywedodd mai’r hyn yr ydym yn ei weld:
[…] yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru. Yn sicr nid yw'r ffordd arall.[….]. I blant tair a phedair oed, yma yng Nghymru, mae teuluoedd yn cael 30 awr o ofal plant am 48 wythnos o'r flwyddyn. Yn Lloegr, mae hynny'n 38 wythnos o'r flwyddyn; 10 wythnos yn llai yn Lloegr nag yr ydych chi'n eu cael yng Nghymru. Yma yng Nghymru, dim ond y llynedd, yn ein cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym ni wedi ymestyn cyrhaeddiad y cynnig gofal plant i blant tair a phedair oed i bobl sydd ar drothwy cyflogaeth, ac mae 3,000 yn rhagor o rieni yn gallu manteisio ar y cynnig gofal plant hwnnw yma yng Nghymru dim ond o ran yr un agwedd honno. Fy nealltwriaeth i yw bod y Canghellor yn dweud y bydd 60,000 yn fwy o bobl yn ymuno â'r gweithlu o ganlyniad i'w fuddsoddiad mewn gofal plant. Mae gennym ni 3,000 eisoes o ganlyniad i'r hyn a wnaethom ar gyfer plant tair a phedair oed yn unig y llynedd, ac mae ein hanes o ehangu gofal plant i blant dwy oed yn rhywbeth sy'n ddyhead yn unig yn Lloegr.